Negyddol Arfaethedig Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir
26 Medi 2022
pNeg(6)003 - Rheoliadau Marchnata Hadau a Deunyddiau Lluosogi Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2022
Gweithdrefn: Negyddol arfaethedig
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau o ran gweithredadwyedd i Reoliadau Marchnata Hadau (Cymru) 2012 a Rheoliadau Marchnata Planhigion Ffrwythau a Deunyddiau Lluosogi (Cymru) 2017.
Mae Llywodraeth Cymru yn esbonio yn ei Memorandwm Esboniadol fod y gwelliannau hyn yn “ofynnol o ganlyniad i ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd” a'u bod “yn diwygio is-ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â marchnata hadau a deunyddiau plannu ffrwythau i gywiro diffygion o ran gweithredadwyedd na roddwyd cyfrif amdanynt mewn offerynnau diwygio cynharach.”
Cafodd y Rheoliadau hyn eu gosod at ddibenion sifftio o dan Ddeddf yr UE (Ymadael) 2018 yn unol â Rheol Sefydlog 27.9A.
Rhiant-Ddeddf: Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018
Bodlonwyd Gofynion y Sifft: Ydyn